Gwobr PetWise

Mae ein Gwobr PetWise yn rhaglen wobrau ddifyr, am ddim ar gyfer plant oedran cynradd i'w haddysgu am anifeiliaid anwes a'u helpu nhw i ddod yn 'PetWise'!

Ydych chi'n athro ysgol sy'n chwilio am bwnc difyr sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm y gellir ei addysgu dros dymor neu a ydych chi'n rhiant sy'n chwilio am brosiect addysgol am ddim y gall eich plant ei wneud gartref? Y naill ffordd neu'r llall, gallai ein rhaglen wobrau fod yn berffaith i chi. Mae gennym ni gynlluniau gwersi, cyflwyniadau, taflenni gwaith a mwy, a’r cyfan ar flaenau eich bysedd. A’r peth gorau? Mae ein holl sesiynau yn gysylltiedig â'r cwricwlwm fel y gallwch chi addysgu plant am y 5 Angen Lles a'r PDSA heb fod angen unrhyw gynllunio ychwanegol.

Barod i ymuno â ni? Gallwch chi ymuno ar-lein! Angen gwybod mwy? Edrychwch ar ein gwybodaeth isod.

Contents

Beth yw Gwobr Ysgol PetWise?

Gwobr Ysgol PetWise yw'r wobr gyntaf (a'r unig un) sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid y gall ysgolion gymryd rhan ynddo. Mae'n debyg i gynllun achredu, efallai eich bod chi'n gyfarwydd ag ef yn barod. Mae ganddo bedair lefel hawdd eu dilyn, pob un â'u hadnoddau am ddim eu hunain yn gysylltiedig â'r cwricwlwm fel y gallwch chi ei gynnwys yn eich gwersi bob dydd.

Drwy fod yn 'PetWise', byddwch chi'n addysgu plant am roi gofal da i anifeiliaid a bydd eich cymuned yn gwybod bod eich ysgol yn gwybod am anifeiliaid anwes ac yn ystyriol ohonyn nhw. I gwblhau'r wobr ac ennill eich statws PetWise arbennig, bydd eich plentyn/plant yn cwblhau cyfres o weithgareddau sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm, ond y peth gorau yw: mae popeth eisoes wedi'i gynllunio ar eich cyfer chi, felly'r oll sy’n rhaid i chi boeni amdano yw ei gyflwyno.

Edrychwch ar rai o'n hadnoddau enghreifftiol i gael syniad o beth i'w ddisgwyl:

PetWise School Award is free to use, for primary aged children, about animals, and links in with the curriculum

Mae Gwobr Ysgol Petwise yn rhan o'r Brifysgol Plant erbyn hyn!

Mae Gwobr Ysgol PetWise yn rhan o fenter genedlaethol y Brifysgol Plant. Ar ddiwedd pob lefel, byddwch chi'n ennill stamp gwerth 5 awr ar gyfer eich Pasbort i Ddysgu. E-bostiwch education@pdsa.org.uk i gael eich codau unigryw.

The Children's University logo

Ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Teach Primary 2021!

Pleser yw cyhoeddi bod Gwobr Ysgol PetWise wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Teach Primary 2021 yn y categori adnoddau am ddim.

Sut mae’n gweithio?

Mae'r wobr yn cynnwys lansiad a thair prif lefel. I lwyddo ym mhob lefel, mae angen i'ch ysgol ennill o leiaf 1,000 o bwyntiau. Edrychwch ar ein fideo i weld sut y gallwch chi ennill eich pwyntiau:

Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau un lefel, byddwch chi'n datgloi'r nesaf hyd nes y byddwch chi wedi ennill statws PetWise llawn!

 

Cofrestru ar gyfer y wobr

Yn barod i ddod yn 'PetWise? Dilynwch ein camau rhwydd isod i gofrestru am ddim!

  1. Cliciwch 'cofrestru' a rhowch eich manylion.
  2. Gwiriwch eich negeseuon e-bost a cliciwch ar y ddolen i gadarnhau eich cyfrif.
  3. Mewngofnodwch a bydd y ffurflen yn parhau. Os na, cliciwch ar 'Ychwanegu Sefydliad' i ychwanegu eich ysgol/grŵp.
  4. Chwiliwch am eich ysgol. Os nad yw eich ysgol yno, cliciwch i ychwanegu grŵp newydd. Bydd angen i grwpiau gwisg ysgol ac ysgolion cartref ychwanegu grŵp newydd.
  5. Ticiwch i ddweud yr hoffech chi fod yn 'PetWise'.
  6. Cliciwch ar 'Fy Nghyfrif' a dylech chi weld botwm 'Ychwanegu PetWise'. Os na, adnewyddwch y dudalen. Cliciwch ar yr eicon hwn a dilynwch y camau.
  7. Cliciwch ar 'Fy Nghyfrif' eto – dylech chi weld yr eicon 'Dangosfwrdd PetWise'. Dyma lle rydych chi'n lanlwytho unrhyw dystiolaeth. Tua brig y dudalen hon, byddwch chi'n gweld y ddolen i weld y lawrlwythiadau.
  8. PetWise!

Unrhyw broblemau, cysylltwch ag education@pdsa.org.uk

 

Ddim yn barod i ddod yn PetWise eto?

Cofrestrwch eich diddordeb a byddwn ni'n anfon manylion sut i gofrestru atoch chi!

Eich Cwestiynau Cyffredin

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, ewch i'n tudalen Cwestiynau Cyffredin neu cysylltwch ag education@pdsa.org.uk - mae ein tîm yn fwy na pharod i helpu bob amser!

Yn barod i ddod yn 'PetWise'?

Gwobr Ysgol PetWise– diolch i gefnogaeth gan chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl