Croeso i'r lefel Aur!

Gobeithio y cawsoch chi hwyl yn cwblhau'r lefel arian. Roedden ni wrth ein bodd yn edrych ar eich holl dystiolaeth. Llongyfarchiadau, rydych chi bron â chwblhau eich taith a, chyn bo hir, byddwch chi'n 'PetWise'!

Dyma drosolwg o'r gweithgareddau y byddwch chi'n eu gwneud fel rhan o'r lefel hon.

Cofiwch, mae angen o leiaf 1000 o bwyntiau arnoch chi i basio pob lefel.

 

Sesiwn Gyrfaoedd sy'n ymwneud ag Anifeiliaid - 200 pwynt

Mae'r sesiwn hon yn sôn am rai o'r gwahanol yrfaoedd sy'n golygu gweithio gydag anifeiliaid.

Bydd y disgyblion yn cael rhestr o deitlau swyddi a chyfres o ddisgrifiadau swydd. Rhaid i'r disgyblion baru'r swydd â'r disgrifiad. Mae'r gweithgaredd hwn wedi'i wahaniaethu ar gyfer plant gallu isel a gallu canolig. Efallai y bydd plant gallu uchel yn cael y teitlau yn unig ac yn gorfod ysgrifennu'r disgrifiadau eu hunain.

Gweithgaredd Darllen Sgiliau – 50 pwynt

Mae hwn yn weithgaredd darllen a deall yn seiliedig ar hysbyseb swydd. Mae'r cwestiynau'n cael eu gwahaniaethu ar draws dau allu. Dylai plant gallu isel wneud y gweithgaredd fel grŵp drwy ddarllen dan arweiniad gyda chymorth oedolyn.

Questions

Gweithgaredd Chwarae Rôl – 50 pwynt

Dylid gwneud y gweithgaredd hwn mewn parau. Bydd un disgybl yn chwarae rôl y cyfwelydd a'r llall yr ymgeisydd. Bydd y ddau ddisgybl yn cael yr un disgrifiad swydd a rhoddir amser iddyn nhw baratoi eu cwestiynau neu eu hatebion posibl cyn chwarae rôl y cyfweliad swydd. Gellid gwneud hyn fel gweithgaredd sedd boeth gyda'r dosbarth cyfan hefyd.

Cyflwyniad – 50 pwynt

Gofynnir i'r disgyblion greu eu cyflwyniad PowerPoint eu hunain am eu hoff yrfa anifeiliaid. Bydd hyn yn gofyn am ymchwil y gellir ei wneud naill ai yn yr ysgol neu fel gwaith cartref. Gallai plant hŷn ddarganfod pa gymwysterau y bydd eu hangen arnyn nhw i gael y gyrfa o'u dewis hefyd.

Ysgrifennu Hysbyseb Swydd – 50 pwynt

Bydd y disgyblion yn ysgrifennu hysbyseb swydd ar gyfer y gyrfa o'u dewis. Rhannwch enghreifftiau o bapurau newydd a gwefannau lleol i weithredu fel WAGOLLs ('what a good one looks like'). Bydd angen i'r disgyblion ystyried y sgiliau sydd eu hangen i gyflawni'r swydd o'u dewis a'r cyflog. Dylai hyn fod yn seiliedig ar ffeithiau ac ymchwil (o'r tasgau blaenorol), yn hytrach na bod yn ffuglennol.

Ysgrifennu Llythyrau – 200 pwynt

Gofynnir i'r disgyblion ysgrifennu llythyr at rywun yn eu hoff yrfa anifeiliaid. Gall yr unigolyn hwnnw fod yn enwog neu'n lleol. Gellid anfon y llythyrau at yr unigolion yn dilyn y wers.

Stereoteipiau - 200 pwynt

Mae'r sesiwn hon yn annog disgyblion i gwestiynu eu rhagfarnau am bobl ac anifeiliaid ac yn mynd i'r afael â'r ffordd mae'r cyfryngau'n portreadu bridiau penodol fel 'Daeargi Tarw Swydd Stafford'. Gellid cynnal trafodaeth neu dwnnel meddwl i ddilyn y sesiwn.

Erthygl Papur Newydd – 50 pwynt

Bydd y disgyblion yn ysgrifennu erthygl papur newydd i ddarbwyllo aelodau'r cyhoedd i beidio â dilyn stereoteipiau ac i fod yn arweinydd yn hytrach na rhywun sy'n dilyn y dorf. Gallan nhw ddefnyddio'r wybodaeth maen nhw wedi'i chael o'r cyflwyniad PowerPoint i'w helpu i ysgrifennu hyn.

Deddfwriaeth Cŵn Peryglus – 50 pwynt - Dim deunydd ategol

Mae'r gweithgaredd hwn ar gyfer CA2 uwch yn unig. Gofynnir i'r disgyblion ymchwilio i'r ddeddfwriaeth cŵn peryglus a gwneud nodiadau ar yr hyn ydyw. Dylid cynnal trafodaeth dosbarth cyfan neu'r gweithgaredd trafod isod i ddilyn.

Trafodaeth – 50 pwynt – Taflen waith, ychydig iawn o eiriau

Mae'r gweithgaredd hwn ar gyfer CA2 uwch yn unig. Mae'n dilyn y dasg ymchwil flaenorol. Bydd y disgyblion yn trafod a ddylai'r Ddeddfwriaeth Cŵn Peryglus fod yn benodol i fridiau penodol o gŵn ai peidio. Bydd y disgyblion yn ysgrifennu rhestr o fanteision ac anfanteision cyn trafod. Gellid gwneud hyn fel twnnel meddwl os oes rhaniad cyfartal ym marn y dosbarth.

Gweithgarwch Paru – 50 pwynt - Taflenni Gwaith

Dangosir delweddau o bobl a delweddau o anifeiliaid anwes i'r disgyblion ac mae'n rhaid iddyn nhw geisio penderfynu pa anifail anwes sy'n perthyn i bob perchennog. Bydd angen iddyn nhw ysgrifennu brawddeg i gyfiawnhau eu hatebion. Yna dangosir yr atebion (a fydd yn eu synnu) i'r disgyblion a'r neges yw na allwn ni farnu pobl ar sail stereoteipiau – mae pawb yn wahanol.

Pa Berchennog? – 50 pwynt Taflen waith – llawer o eiriau

Rhoddir dwy senario i'r disgyblion ac mae'n rhaid iddyn nhw benderfynu pa deulu sydd fwyaf addas i'r anifail anwes. Dylid ysgrifennu hyn fel dadl gytbwys.

Ymgyrch i Godi Ymwybyddiaeth – 200 pwynt Dim deunydd ategol

Dyma dasg olaf y rhaglen wobrau. Da iawn am gyrraedd mor bell â hyn – mae’r diwedd o fewn cyrraedd! Gofynnir i'r disgyblion (mewn grwpiau) greu ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o PDSA a'r gwaith rydyn ni'n ei wneud. Gall hyn fod yn bosteri, cyflwyniadau, taflenni, erthyglau papur newydd, darllediadau teledu/radio, cyfweliadau neu unrhyw beth arall y gallan nhw feddwl amdano. Eu nod yw lledaenu'r gair a'n cefnogi ni i helpu'r genedl i #GetPetWise.