Croeso i'ch diwrnod lansio!

Croeso i daith Gwobrau Ysgol PetWise!

Dyma drosolwg o'r gweithgareddau y byddwch chi'n eu gwneud fel rhan o'r lefel hon. Cofiwch, mae angen o leiaf 1000 o bwyntiau arnoch chi i basio pob lefel.

 

Sesiwn Gwasanaeth (Cyflwyniad i PDSA)- 200 pwynt

Four children holding letters spelling out PDSA

Mae'r sesiwn hon yn rhoi trosolwg o PDSA, y gwaith rydyn ni'n ei wneud a sut rydyn ni'n helpu. Mae hefyd yn rhannu straeon rhyfeddol am yr anifeiliaid anwes mae PDSA wedi eu helpu.

Cyflwyniad i weithgarwch PDSA – 50 pwynt

Gofynnir i'r disgyblion greu poster neu daflen wybodaeth am PDSA i'w harddangos yn yr ysgol. Bwriad hyn yw rhoi gwybodaeth i ymwelwyr yr ysgol am y wobr, a gellir defnyddio un enghraifft i roi gwybodaeth i rieni ar eich cylchlythyr ysgol hyd yn oed

Nod Llyfr Origami – 50 pwynt

Gan ddefnyddio'r templed a ddarparwyd, mae'r disgyblion yn creu eu nod tudalen PDSA eu hunain. Gall plant gallu uchel (neu weithwyr cyflym) ddefnyddio'r cyfarwyddiadau i greu eu hanifail eu hunain.

Amdanaf i – 25 pwynt

Bydd y disgyblion yn llenwi'r daflen waith a ddarparwyd gyda gwybodaeth amdanyn nhw'u hunain.

Fy Anifail Anwes – 25 pwynt

Bydd y disgyblion yn llenwi'r daflen waith a ddarparwyd gyda gwybodaeth am eu hanifeiliaid anwes.

Enwch yr Anifail  – 50 pwynt

Bydd y disgyblion yn ceisio gweld pa anifail a ddangosir yn y ddelwedd o giplun bach yn unig.

Hanes PDSA - 200 pwynt

Mae'r sesiwn hon yn rhoi trosolwg o 100 mlynedd diwethaf PDSA ac yn esbonio pam bod angen yr elusen pan gafodd ei sefydlu gyntaf gan Maria Dickin yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Key Stage 1

Key Stage 2

Gweithgarwch Maria Dickin  - 100 pwynt

Maria Dickin

Gofynnir i'r disgyblion ysgrifennu naill ai erthygl papur newydd (wedi'i gosod ym 1917) am Maria Dickin yn sefydlu PDSA neu gofnod dyddiadur gan Maria yn sôn am sefydlu'r elusen.

Arddangosiad Anifeiliaid Anwes - 200 pwnyt

Rydyn ni'n gofyn i ysgolion greu bwrdd arddangos yn yr ysgol i arddangos enghreifftiau o waith eu disgyblion o'r diwrnod lansio. Ysgolion Cartref – mae poster yn ddewis amgen gwych ar gyfer y gweithgarwch hwn.

Codi arian/Rhoi rhodd - 300 pwynt

Mae ein gwobr yn rhad ac am ddim, ond byddem yn gwerthfawrogi'n fawr unrhyw roddion y gallwch chi eu rhoi. Mae'n costio dros filiwn o bunnoedd i PDSA bob wythnos i drin ein cleifion sâl ac, oherwydd nad ydyn ni'n derbyn unrhyw arian gan y Llywodraeth, rydyn ni'n dibynnu ar bobl fel chi i helpu. Bydd yr holl elw yn ein helpu ni i barhau i drin un anifail anwes sâl neu un sydd wedi'i anafu bob 5 eiliad ac nid oes swm penodol – mae pob ceiniog yn helpu.