Croeso i'r lefel Arian!

Gobeithio y cawsoch chi hwyl yn cwblhau'r lefel efydd. Llongyfarchiadau, rydych chi dros hanner ffordd ar eich taith tuag at ennill eich Statws PetWise.

Dyma drosolwg o'r gweithgareddau y byddwch chi'n eu gwneud fel rhan o'r lefel hon.

Cofiwch, mae angen o leiaf 1000 o bwyntiau arnoch chi i basio pob lefel.

 

Sesiwn Cyfathrebu â Chŵn - 200 pwynt

Mae'r sesiwn hon yn dangos sut i adnabod yr hyn mae cŵn yn ei ddweud wrthym drwy iaith eu corff a sut i gadw'n ddiogel wrth ymyl cŵn.

Rhoddir cerdyn emoji i'r disgyblion ac mae'n rhaid iddyn nhw sefyll o flaen y dosbarth a meimio'r emosiwn ar eu cerdyn tra bod gweddill y dosbarth yn dyfalu sut maen nhw'n teimlo. Y syniad yw dangos pa mor hawdd yw darllen iaith corff person o gymharu ag anifail.

Snap – 50 pwynt

Mae'r disgyblion yn gweithio mewn parau ac yn cael set o gardiau yr un. Mae gan un plentyn ddelweddau o emojis ac mae gan y llall ddelweddau o'r cŵn sydd yn y cyflwyniad PowerPoint. Rhaid i'r disgyblion weiddi snap os ydyn nhw'n rhoi cerdyn emoji i lawr sy'n cyfateb i sut mae'r ci ar y cerdyn ci yn teimlo.

 

Stribed comig Sut i Gadw'n Ddiogel wrth ymyl Cŵn – 50 pwynt

Rhoddir stribed comig gwag i'r disgyblion a gofynnir iddyn nhw dynnu llun senarios gwahanol, fel yn y cyflwyniad PowerPoint, i ddangos i bobl eraill sut i gadw'n ddiogel mewn gwahanol sefyllfaoedd. Gellid eu harddangos yn yr ysgol.

Twnnel Meddwl – 50 pwynt

Mae hon yn dechneg ddefnyddiol ar gyfer archwilio cyfyng-gyngor y gallai pobl ei wynebu. Rhoddir pwnc dadleuol i'r disgyblion a gofynnir iddyn nhw ystyried eu safbwynt a dewis ochr. Mae'r disgyblion yn sefyll mewn dwy linell sy'n wynebu ei gilydd (safbwyntiau gwrthgyferbyniol) ac mae un disgybl meddwl agored yn cerdded rhwng y llinellau, gan stopio o flaen pob disgybl yn ei dro i glywed ei gyngor. Pan fyddan nhw'n cyrraedd pen y twnnel, gofynnir iddyn nhw pa ochr maen nhw'n cytuno â hi ar ôl clywed dadl y naill ochr a’r llall.

Tasg Ymchwil Hanes Dofi – 50 pwynt

Mae disgyblion yn defnyddio'r rhyngrwyd (neu lyfrau) i ymchwilio i sut y cafodd cŵn (neu gathod) eu dofi ac ysgrifennu eu canfyddiadau fel adroddiad gan ddefnyddio nodweddion allweddol ysgrifennu adroddiadau: cronolegol (mewn trefn amser), amser gorffennol, geiriau agoriadol fel 'Credir bod...', geiriau wow, y 5W ('what, where, when, why, who'), dyfyniadau, tystiolaeth, ffeithiau a barn, delweddau gyda chapsiynau, colofnau, teitl bachog, is-benawdau a pheidio ag anghofio'r dyddiad ar y brig. Gall disgyblion llai abl ysgrifennu eu canfyddiadau fel pwyntiau bwled yn lle hynny.

Gwasanaeth i Rieni – 200 pwynt

Mae'r disgyblion yn dangos popeth maen nhw wedi'i ddysgu am sut i gadw'n ddiogel wrth ymyl cŵn i'w rhieni a'u gwarcheidwaid. Nod hyn yw bod yn weithred gymdeithasol, nid yn unig i atgyfnerthu dysgu'r plant ond hefyd i addysgu negeseuon pwysig i'r gymuned ehangach am sut i ddeall yr hyn mae ci yn ceisio'i ddweud.

Sesiwn Anifeiliaid Arwrol - 200 pwynt

Mae'r sesiwn hon yn edrych ar weithredoedd dewr ac arwrol anifeiliaid o gyfnod rhyfel hyd heddiw, rhaglen fedalau PDSA a'r anifeiliaid sydd wedi derbyn medalau. Mae'r sesiwn hon yn rhannu straeon rhyfeddol anifeiliaid anwes bob dydd mewn cymdeithas hefyd.

Rhoddir taflen waith i'r disgyblion gyda thempled gwag o fedal a gofynnir iddyn nhw ddylunio eu medal eu hunain ac enwebu anifail anwes (neu unigolyn) maen nhw'n ei ystyried yn arwr.

Papr PDSA – 50 pwynt

Rhoddir templed papur newydd i'r disgyblion a gofynnir iddyn nhw ysgrifennu erthygl ffeithiol am anifail anwes arwrol. Os ydyn nhw'n ei chael hi'n anodd meddwl am anifail anwes go iawn, mae gennym ni ddigon o enghreifftiau o enillwyr medalau PDSA y gallwch chi eu rhannu gyda'r dosbarth yma.

Stori – 50 pwynt

Bydd y disgyblion yn ysgrifennu stori ffuglennol am anifail anwes sy'n cymryd rhan mewn gweithred arwrol.

Ymchwil ac Adolygu – 50 pwynt

Bydd y disgyblion yn cynnal ymchwil ac yn ysgrifennu adolygiad ar dderbynnydd Medal Dickin PDSA. Mae'r rhain i'w gweld yma

Roeddwn i'n Ddewr pan... – 50 pwynt

Bydd y disgyblion yn creu cyflwyniad byr (un neu ddwy sleid) i ddweud wrth eu cyfoedion am adeg pan oedden nhw'n ddewr ac yn ei gyflwyno i'r dosbarth. Tebyg i weithgarwch dangos a dweud. 

Seremoni Wobrwyo – 200 pwynt

Bydd y disgyblion yn enwebu ac yn pleidleisio dros anifail arwrol lleol ac yn gwahodd pobl o'r gymuned leol i'r ysgol i seremoni wobrwyo. Mae hon yn ffordd allweddol o gysylltu gwaith ysgol â'r gymuned ehangach.

Sesiwn Paratoi ar gyfer yr Anifeiliaid Anwes Cywir - 200 pwynt

Mae'r sesiwn hon yn ymdrin â'r costau sy'n gysylltiedig â bod yn berchen ar anifeiliaid anwes poblogaidd gyda ffocws Mathemateg ar gyfer cynulleidfaoedd o oedrannau priodol ac yn annog y gynulleidfa i wneud penderfyniad gwybodus wrth ddewis anifail anwes.

Mae'r disgyblion yn defnyddio'r templed i ddarganfod faint o blant yn eu dosbarth sydd ag anifeiliaid anwes a pha anifeiliaid anwes sydd fwyaf poblogaidd. Gellir gwneud hyn drwy'r ysgol gyfan, gydag un dosbarth yn arwain ac yn ymweld â dosbarthiadau eraill (mewn grwpiau bach) i ddarganfod faint o anifeiliaid anwes sydd gan bob dosbarth. Gellir ei wneud fel rhan o'r sesiwn Paratoi ar gyfer yr Anifail Anwes Cywir hefyd neu wers Fathemateg ar gasglu a chyflwyno data.

Pa Anifail Anwes? Gweithgaredd – 50 pwynt

Rhennir y disgyblion yn grwpiau a rhoddir astudiaeth achos i bob grŵp. Rhaid i bob grŵp drafod pa anifail anwes fyddai fwyaf addas i'w deulu astudiaeth achos (os o gwbl) ac egluro eu rhesymau i weddill y dosbarth. Mae'r gweithgaredd hwn yn rhan o’r cyflwyniad PowerPoint ond gellir ei gyflwyno ar wahân os hoffech chi dreulio mwy o amser ar hyn.

Tasg Siopa – 50 pwynt

Gellir darparu'r gweithgaredd hwn fel rhan o'r sesiwn Paratoi ar gyfer yr Anifail Anwes Cywir neu ar wahân fel gwers Fathemateg gan ddefnyddio gwefannau cyflenwi nwyddau anifeiliaid anwes yn hytrach na'r rhestr brisiau benodol. Bydd y disgyblion yn llenwi'r bylchau ar y rhestr siopa i weld faint y byddai'n ei gostio i brynu popeth sydd ei angen ar anifail anwes i'w gadw'n hapus ac yn iach i ddechrau. Nid yw'r costau hyn yn cynnwys costau oes megis bwyd, biliau milfeddygol neu yswiriant. 

Llyfryn Gwybodaeth – 200 pwynt

Bydd y disgyblion yn creu llyfryn gwybodaeth (neu daflen) i ddweud wrth bobl eraill sut i ofalu am gathod, cŵn, cwningod neu unrhyw anifeiliaid anwes perthnasol eraill. Gallan nhw ddefnyddio'r templed a ddarperir i'w helpu i strwythuro eu hymchwil gychwynnol. Gellid rhannu detholiad o'r gwaith gorau yn y gymuned leol.